Ymgynghoriad statudol cyn gwneud cais
Pwrpas yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yw galluogi Cedar i gyflwyno’i gynlluniau drafft ar gyfer tir oddi ar Grange Road, Cwmbran i gymdogion a rhanddeiliaid perthnasol a chael adborth. Mae hyn er mwyn sicrhau, lle bo’n bosibl, y gellir gwneud newidiadau cyn cyflwyno cais cynllunio.
Yn unol â’r broses ymgynghori statudol ar gyfer ceisiadau mawr, hysbysodd Cedar gymdogion, ymgyngoreion a rhanddeiliaid am yr ymgynghoriad cyn ymgeisio hwn ar Ddydd Llun 23 Tachwedd 2020.
Mae cardiau ymateb ac amlenni post-daledig wedi cael eu cynnwys gyda’r llythyr newyddion a gafodd ei ddosbarthu i randdeiliaid a chymdogion, yn annog derbynwyr i gyflwyno sylwadau ar y cynigion ar gyfer y safle.
Bydd y ffenestr ymgynghori ar gyfer partïon â diddordeb i wneud cyflwyniadau ar y cynnig drafft hwn yn aros yn agored hyd at hanner nos ar Ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020, gan ateb y gofynion statudol.
Mae Cedar yn bwriadu cyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar ddechrau Ionawr 2021.
Yn y cyfamser, rydym yn edrych ymlaen at glywed eich barn ac adborth ar ein cynigion.