Hafan

Cynigion ailddatblygu ar gyfer cyfleuster gweithgynhyrchu newydd ar dir oddi ar Grange Road, Cwmbran

Mae Cedar Cwmbran Limited (Cedar) yn cyflwyno cynigion i ailddatblygu tir oddi ar Grange Road, Cwmbran gyda chyfleuster gweithgynhyrchu 100,000 troedfedd sgwâr newydd, swyddfeydd, safle parcio i geir, a gweithfeydd allanol.

Mae tir oddi ar Grange Road, Cwmbran yn safle tir llwyd gwag wedi’i leoli i’r gorllewin o’r rheilffordd ac i’r gogledd o’r stad ddiwydiannol ar Llanfrechfa Way. Mae Cedar yn bwriadu datgloi potensial economaidd y safle hwn, sydd wedi’i ddynodi ar gyfer defnydd diwydiannol, trwy ddarparu ffatri newydd i Crane Process Flow Technologies (Crane),cwmni lleol sy’n aweinydd marchnad byd-eang Falfiau Diaffram Diwydiannol ar gyfer dyfeisiau diwydiannol cyrydol a ffrithiol, a’r diwydiannau Gwyddor Bywyd. Bydd y ffatri arfaethedig yn cymryd lle cyfleuster presennol Crane, wedi’i leoli i’r gogledd o’r safle.

Nid yw ffatri bresennol Crane yn ateb ei gofynion mwyach, sy’n golygu bod angen i’r cwmni sicrhau cartref mwy modern ac effeithlon, ac mae wedi bod yn edrych ar nifer o opsiynau yn y DU yn ogystal â thramor.  Yn ddelfrydol, hoffai Crane aros yn rhan o’r gymuned leol a pharhau i weithredu o Gwmbran, ond bydd hyn ond yn bosibl os gellir cytuno ar safle ar gyfer ei ffatri newydd.

Mae cynigion Cedar felly yn cynrychioli cyfle pwysig i economi’r dref, gan y byddant nid yn unig yn sicrhau presenoldeb parhaol Crane yng Nghwmbran (lle maen nhw wedi gweithredu ers 1934)ond byddant hefyd yn diogelu bron 170 o swyddi o ansawdd yn ei gyfleuster presennol, a llawer yn rhagor o swyddi mewn busnesau eraill yn y rhanbarth sy’n cyflenwi ystod eang o wasanaethau i weithrediadau Crane.

Am ragor o wybodaeth am ein cynlluniau drafft ar gyfer y tir oddi ar Grange Road, Cwmbran, ymgynghorwch â’n tudalen Gynigion.  

I weld manylion llawn ein hailddatblygiad arfaethedig, gan gynnwys yr holl ddogfennau cynllunio drafft perthnasol, edrychwch ar ein tudalen Dogfennau a Lawrlwythiadau.

ADBORTH

Byddai Cedar yn croesawu sylwadau ar ei gynlluniau drafft cyn dyddiad cau’r adborth am hanner nos ar Ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020. Mae manylion am y ffyrdd y gallwch ddarparu’r adborth hwn ar ein tudalen Gyswllt, neu gallwch ddarparu eich sylwadau ar-lein trwy’r dudalen Dweud eich Dweud

YMGYNGHORIAD CYN YMGEISIO STATUDOL

Pwrpas yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yw galluogi Cedar i gyflwyno’i gynlluniau drafft ar gyfer tir oddi ar Grange Road, Cwmbran i gymdogion a rhanddeiliaid perthnasol a chael adborth. Mae hyn er mwyn sicrhau, lle bo’n bosibl, y  gellir gwneud newidiadau cyn cyflwyno cais cynllunio.

Yn unol â’r broses ymgynghori statudol ar gyfer ceisiadau mawr, hysbysodd Cedar gymdogion, ymgyngoreion a rhanddeiliaid am yr ymgynghoriad cyn ymgeisio hwn ar Ddydd Llun 23 Tachwedd 2020.

Mae cardiau ymateb ac amlenni post-daledig wedi cael eu cynnwys gyda’r llythyr newyddion a gafodd ei ddosbarthu i randdeiliaid a chymdogion, yn annog derbynwyr i gyflwyno sylwadau ar y cynigion ar gyfer y safle.

Bydd y ffenestr ymgynghori ar gyfer partïon â diddordeb i wneud cyflwyniadau ar y cynnig drafft hwn yn aros yn agored hyd at hanner nos ar Ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020, gan ateb y gofynion statudol.

Mae Cedar yn bwriadu cyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar ddechrau Ionawr 2021.

Yn y cyfamser, rydym yn edrych ymlaen at glywed eich barn ac adborth ar ein cynigion.