Cysylltu â ni
Mae Cedar Cwmbran yn awyddus i glywed eich adborth ar ei gynigion i ailddatblygu tir oddi ar Grange Road, Cwmbran gyda chyfleuster gweithgynhyrchu 100,000 troedfedd sgwâr newydd, swyddfeydd, safle parcio i geir, a gweithfeydd allanol.
Bydd adborth a gyflwynir cyn hanner nos ar Ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020 yn cael ei adolygu gan dîm y prosiect a’i ystyried cyn i’r cynlluniau terfynol gael eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Bydd ein dulliau ymgynghori a derbyn adborth yn cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Gwneud Cais (Adroddiad PAC), a gyflwynir fel rhan o’r cais cynllunio.
Gallwch gysylltu â n i a/neu adael eich adborth yn y ffyrdd canlynol:
Ein gwefan ymgynghoriad, trwy glicio’r botwm Dweud eich Dweud.
Ffôn: 0800 298 7040
E-bost: feedback@consultation-online.co.uk
Pe byddech yn dymuno cyflwyno’ch sylwadau yn ysgrifenedig, ysgrifennwch at Cedar Cwmbran, c/o BECG, The Pump House, Garnier Road, Winchester, Hampshire, SO23 9QG